
Tuning in to your health & wellbeing

Taro tant â'ch
iechyd a lles

Croeso i
MelodiCare Cymru
Taro tant â'ch iechyd & lles

Mae gwasanaethau ar gael yn y
Gymraeg a Saesneg
Gwasanaethau Therapi & Lles Cerddoriaeth yn Ne Cymru
Mae MelodiCare Cymru yn cynnig Therapi Cerddoriaeth, Therapi Cerddoriaeth Niwrolegol ® a Grwpiau Cerddoriaeth & Lles person-ganolog wedi'u teilwra ar gyfer unigolion a grwpiau.
Rydym yn cynnig gwasanaethau ar gyfer:
cleientiaid preifat
grwpiau cymunedol ac allgymorth
lleoliadau gofal preswyl
lleoliadau clinigol a gofal iechyd
sefydliadau elusennol
ysgolion a lleoliadau addysg
hosbisau a gofal lliniarol
canolfannau niwro-adsefydlu

Gan gyflwyno
MelodiCare Cymru
Therapydd Cerdd Cofrestredig HCPC MelodiCare Cymru
Bethan Wynne Phillips




Mae Bethan Wynne Phillips yn Therapydd Cerdd Cofrestredig HCPC, graddiodd o Brifysgol De Cymru yn 2025. Mae ganddi brofiad clinigol mewn addysg, hosbis a lleoliadau niwro-adsefydlu, gan weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion.
Mae Bethan yn Therapydd Cerddoriaeth eclectig a dyneiddiol, lle mae anghenion ac hunaniaeth cleientiaid wrth wraidd y gwaith therapiwtig. Caiff amcanion sesiynau eu cyd-lunio gyda chleientiaid mewn gofod diogel, gofalgar ac hyblyg i archwilio sut y gall cerddoriaeth gefnogi nodau cymdeithasol, emosiynol, seicolegol, gwybyddol a chorfforol orau yn ôl yr angen. Mae ei harfer therapiwtig wedi'i ategu gan ostyngeiddrwydd diwylliannol (cultural humility) a dulliau sy'n ystyrlon o drawma.
Mae hi hefyd yn Therapydd Cerddoriaeth Niwrolegol cymwys, yn angerddol am ddarparu ymyrraethau wedi'u teilwra sy'n canolbwyntio ar y person, gan rymuso cleientiaid i weithio ar eu nodau swyddogaethol trwy gerddoriaeth wrth gefnogi eu lles seicolegol ac emosiynol.
Mae Bethan yn athrawes gerddoriaeth gymwysedig gyda bron i 15 mlynedd o brofiad mewn addysg brif ffrwd ac AAA, gan addysgu ar draws pob oedran. Mae hi hefyd yn artist cerddorol cysylltiol gyda'r sefydliad celfyddydau, iechyd a lles People Speak Up sydd wedi'i leoli yn Sir Gaerfyrddin. Mae Bethan yn siaradwr Cymraeg rhugl gall ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Gwreiddir ei hymarfer mewn empathi, dilysrwydd ac ymrwymiad cryf i gynnal golwg gyfannol ar y rhai y mae'n gweithio gyda nhw, gan thiwnio daro tant gyda'i hiechyd & lles.

Therapi Cerddoriaeth
Beth yw
Therapi Cerddoriaeth?
Mae Therapi Cerddoriaeth yn ymarfer seicolegol clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n cefnogi iechyd a lles cymdeithasol, emosiynol, seicolegol, gwybyddol a chorfforol cleientiaid. Gall dulliau gynnwys byrfyfyrio, ysgrifennu caneuon, gwrando, canu neu archwilio sain.
Gellir defnyddio amrywiaeth o offerynnau ac arddulliau cerddorol a dewisiadau mewn sesiynau, ac nid oes angen unrhyw brofiad cerddorol.
Mae'r berthynas therapiwtig wrth wraidd yr ymarfer hwn, gyda'r chwarae cerddorol rhwng y therapydd a'r cleient yn gatalydd ar gyfer ymgysylltu ac archwilio hunanfynegiant.
Ar gyfer pwy mae
Therapi Cerddoriaeth?
Gall pobl o bob oed a chefndir gael mynediad at Therapi Cerddoriaeth os ydynt am archwilio dewis amgen yn hytrach na therapïau llafar i fynd i'r afael â'u hamcanion therapiwtig personol.
Gall hyn fod yn opsiwn hygyrch i rhai sy'n ddi-eiriau neu sy'n teimlo y bydd allfa greadigol yn cefnogi eu mynegiadau llafar yn well mewn cyd-destun therapi, gan y gall cerddoriaeth gysylltu ar lefel ddyfnach.
Gall Therapi Cerdd helpu'r rhai sydd eisiau gweithio gyda Therapydd Cerdd cymwys ar fynegiant a rheoleiddio emosiynol, hunan-ddealltwriaeth, cyflyrau seicolegol, nodau swyddogaethol a medrau cymdeithasol.
Ble fydd sesiynau
Therapi Cerddoriaeth yn digwydd?
Ar hyn o bryd, mae MelodiCare Cymru yn darparu sesiynau Therapi Cerdd gan deithio i gartrefi cleientiaid unigol neu leoliadau sefydliadol . Mae'n syniad da sicrhau bod lle addas ar gael yn eich cartref neu leoliad.
Lle bo modd, lle tawel, preifat sydd orau wrth weithio gyda chleientiaid 1:1 mewn sefydliadau, gan fod sesiynau'n gyfrinachol.
Darperir offerynnau ac offer, fodd bynnag mae croeso i gleientiaid a sefydliadau gyflwyno offerynnau sydd ganddynt mewn sesiynau.


Gellir archebu sesiynau 1:1 neu sesiynau grwp.
Mae archebion bloc ar gael i sefydliadau am gost ostyngedig.
Cysylltwch am brisiau.



Therapi Cerddoriaeth Niwrolegol ®
Mae Therapi Cerddoriaeth Niwrolegol® (NMT™) yn driniaeth glinigol safonol sy'n targedu anghenion synhwyraidd-modur, gwybyddol a iaith & lleferydd.
Mae'r model arbenigol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn gyfres techneg safonol sy'n targedu nodau swyddogaethol nad ydynt yn gerddorol, a ddefnyddir trwy ymyrraethau cerddorol strwythuredig i fynd i'r afael ag anghenion adsefydlu, addasol a niwrolegol. Gall hyn fod ar sail 1:1 neu fel grŵp.
Cofleidia MelodiCare Cymru dulliau dyneiddiol, person-ganolog wrth weithio gydag NMT™, i gefnogi nodau swyddogaethol cleientiaid wrth roi sylw i'w lles cymdeithasol, emosiynol a seicolegol.
Gall ymarferwyr NMT™ weithio'n unigol neu gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill fel ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a therapyddion lleferydd ac iaith i gyfoethogi cynlluniau triniaeth cleientiaid.
Gall MelodiCare Cymru ddarparu gwasanaethau wedi'u llywio gan NMT™ ar gyfer (ond heb fod yn gyfyngedig i) y poblogaethau canlynol:
Anaf i'r Ymennydd a Gaffaelwyd/Trawmatig
Anhwylderau Symud (e.e. clefyd Parkinson)
Goroeswyr strôc
Clefyd Alzheimer a Dementia
Gellir archebu sesiynau 1:1 neu sesiynau grwp.
Mae archebion bloc ar gael i sefydliadau am gost ostyngedig.
Cysylltwch am brisiau.

Bydd technegau sy'n targedu nodau gwybyddol yn mynd i'r afael ag anghenion ym meysydd sylw, swyddogaeth weithredol, cof, integreiddio seicogymdeithasol a synhwyraidd. Mae therapyddion yn defnyddio ymarferion cerddorol gweithredol a strwythuredig i ymgysylltu â'r ymennydd a lleddfu a gwella problemau sy'n ymwneud â chof, swyddogaeth weithredol, ymddygiad ac ataliad.
Gwybyddol

Gall y technegau hyn fynd i'r afael ag amrywiaeth o nodau lleferydd ac iaith gan gynnwys cefnogi anadl, adfer geiriau, rhuglder geiriau, ynganu, cyfaint lleisio, ffurfiant llais, a chyfathrebu mynegiannol di-eiriau. Defnyddir ymarferion rhythmig a chanu i wella rheolaeth gyhyrol y systemau lleferydd ac anadlu, gan wella ynganu, hwyluso cychwyn synau lleferydd, annog cynhyrchu lleferydd, mireinio traw, ffurfiant, cefnogaeth anadl, a chyfaint, yn ogystal â chynyddu eglurder lleferydd cyffredinol.

Mae technegau synhwyraidd-modur yn faes cyffredin yn NMT™ . Gellir defnyddio cerddoriaeth a rhythm i wella ymddygiad ac ymatebion modur. Mae rhythm yn chwarae rhan bwysig trwy ddarparu amseriad fel sylfaen ar gyfer symudiad, tra bod ysgogiadau clywedol yn actifadu'r ymennydd ac yn sbarduno'r gwahanol synhwyrau. Mae patrymau ac offerynnau cerddorol yn gyffredin o fewn y technegau synhwyraidd-modur fel ffordd o fynd i'r afael ag amrywiol symudiadau modur.
Synhwyrydd-modur
Lleferydd ac Iaith



Gweithdai
Cerddoriaeth & Lles
Rhy gweithdy cerddoriaeth gyfle i gyfranogwyr archwilio manteision therapiwtig cerddoriaeth mewn amgylchedd cefnogol ac hwyliog . Rydym yn canolbwyntio ar ddefnyddio cerddoriaeth i hyrwyddo lles cyffredinol, creadigrwydd ac ymlacio . Opsiwn anghlinigol sy'n canolbwyntio ar ymlacio, hybu hwyliau da ac adeiladu cymuned trwy brofiadau a rennir.
Mae gweithdai ar gyfer hyd at 15 aelod ar gael ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysg, gofalfannau, sefydliadau elusennol a grwpiau cymunedol. Gyda bron i 15 mlynedd o brofiad addysgu a gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol, mae MelodiCare Cymru yn arbenigo mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn addysg , gyda gwybodaeth helaeth a chyfoes am Gwricwlwm Cymru a chynhwysiant wrth wraidd gweithdai lles.
Mae MelodiCare Cymru yn teilwra gweithdai i amcanion penodol eich sefydliad , boed hyn yn angen llesol, nod addysgol neu thema . Darperir offerynnau ac offer, ac mae'n syniad da sicrhau bod gennych le addas ar gyfer y gweithdy.
Gellir archebu gweithdy un amser neu fel cyfres o weithdai.
Mae archebion bloc ar gael i sefydliadau am bris gostyngol. Cysylltwch am brisiau.










